Peth Bach ‘di Cawr

Taith Hydref 2023


Peth Bach ‘di Cawr

Yn dilyn llwyddiant ‘Cyfrinach y Brenin’ y llynedd, mae OPRA Cymru’n ôl ar daith fis Hydref gydag opera newydd sbon gan yr athrylith, Gareth Glyn.

Mae’r libreto wedi’i greu gan dîm creadigol OPRA Cymru, Patrick Young ac Iwan Teifion Davies, ac yn ddehongliad modern o chwedl y Mabinogi, Culhwch ac Olwen.

Bydd y daith yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru, gan gynnwys rhai o brif theatrau’r wlad yn ogystal â neuaddau lleol a chanolfannau cymdeithasol.


Y Daith


Manylion Tocynnau

Neuadd Egryn, Llanegryn - Emma Jayne Jones (07786 060038)

Neuadd Goffa,Cricieth - Ben Rosen (01766 523672)

Theatr Derek Williams, Bala - (01678 520259), Awen Meirion

Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern - Awen Menai

Theatr John Ambrose, Rhuthun - Siop Elfair

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - (01970 62 32 32)

Galeri, Caernarfon - 01286 685 222

Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog - Siop yr Hen Bost

Neuadd San Pedr, Caerfyrddin - Siop y Pentan

Theatr Soar, Merthyr Tydfil - 01685 722176

Canolfan Hamdden, Llanfair Caereinion - 01938 810634

Y Ganolfan Gymdeithasol, Llanrwst - Siop Sioned


*Tocynnau ar gael ar y drws ym mhob perfformiad*


Cast