Cynyrchiadau Diweddar

Così Fan Tutte

Mai 2023

Dyma daith gyntaf OPRA Cymru yn ymweld â phrif theatrau’r wlad wedi cyfnod y pandemig. Roedd y cast yn gymysgedd gwych o gantorion profiadol â’r rheiny ar gychwyn eu gyrfa, gan gynnwys Leah Marian Jones, Erin Gwyn Rossington, Erin Fflur, Rhys Jenkins, Huw Ynyr a John Ieuan Jones.

Cyfrinach y Brenin

Hydref 2022

Dyma ail gomisiwn gwreiddiol y cwmni a’r opera gyntaf o’i math; opera i blant a theuluoedd yn y Gymaeg. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Mared Emlyn a’r libreto gan Patrick Young ac Iwan Teifion Davies. Roedd y cynulleidfaoedd wrth eu boddau a’r sioe yn brawf bod angen mwy o weithiau operâu yn y Gymraeg!

Don Giovanni

Hydref 2019

Mae OPRA Cymru’n credu’n gryf mewn hyrwyddo doniau cantorion ac offerynwyr ifanc Cymru, a chrëwyd taith arbennig o’r opera Don Giovanni gan Mozart gyda chriw o artistiaid addawol. Ymewlwyd â theatrau yn o gystal â neuaddau pentref a chanolfannau gwledig i sicrhau fod opera yn arddull y gall bawb ei fwynhau.

Fidelio

Gwanwyn 2019

I goffau 200 mlynedd ers i Beethoven gyfansoddi ei unig opera, llwyfanwyd cynhyrchiad gwreiddiol mewn theatrau ledled Cymru.

Wythnos yng Nghymru Fydd

Hydref 2017

Dyma’r opera wreiddiol gyntaf a’i chomisiynwyd gan OPRA Cymru. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan yr athrylith Gareth Glyn a’t libreto gan Mererid Hopwood. Mae’r opera yn seiliedig ar y nofel enwog gan Islwyn Ffowc Elis o’r un enw. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol ac ennillodd y cynhyrchiad wobr am y ‘Cynhyrchiad gorau yn y Gymraeg’ yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018. Ers y cychwyn un roedd Patrick Young, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig OPRA Cymru yn benderfynol o greu gweithiau gwreiddiol yn y Gymraeg, a llwyddwyd i wireddu breuddwyd oes gyda’r opera hon.