Ein Stori

Sefydlwyd OPRA Cymru ym mis Gorffennaf 2008 gan gyn-gyfarwyddwr opera y Ty Opera Brenhinol, Patrick Young, a chafwyd cyngerdd agoriadol ym Mhontrhydfendigaid ar 21ain Mehefin, 2009. Roedd gweledigaeth y cwmni'n glir o'r dechrau: dod ag opera o fewn cyrraedd pawb, drwy ei gyflwyno yn y Gymraeg. 

Ers y cyngerdd agoriadol hwnnw, mae'r cwmni wedi cyflwyno chwe chlasur o'r repertoire operatig, a pherfformiwyd pob un drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhyrchiad o Carmen oedd taith gyntaf y cwmni mewn ysgolion a neuaddau pentref, gyda tri chanwr a phiano digidol yn gyfeiliant iddynt; ond mae’r cwmni bellach wedi tyfu, ac mae’n perfformio yn gyson ym mhrif leoliadau Cymru gydag ensemble siambr.

Yn ogystal â’r gweithgareddau rheolaidd hyn, mae’r cwmni wedi lansio amrywiaeth o brosiectau sy’n hyrwyddo opera, gan gynnwys rhaglen hyfforddi disgyblion ysgol; a Chynllun Artistiaid Addawol y cwmni, sy’n cynnig cyfleoedd perfformio a datblygu proffesiynol i berfformwyr ifanc ar ddechrau eu gyrfa.

Patrick Young yw Cyfarwyddwr Artistig y cwmni ac Iwan Teifion Davies yw’r Cyfarwyddwr Artistig. Mae’r cwmni hefyd wedi penodi Huw Ynyr fel swyddog ymgysylltu â’r gymuned.

Wythnos yng Nghymru Fydd oedd cynhyrchiad premiere cyntaf OPRA Cymru o opera yn y Gymraeg. Enillodd y sioe wobr 'Cynhyrchiad gorau yn yr iaith Gymraeg' yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018. 

Mae’r cwmni wedi comisiynu’r cyfansoddwr Gareth Glyn i ysgrifennu ei ail opera yn ddiweddar, fersiwn o nofel enwocaf Cymru, Un Nos Ola Leuad gan yr awdur a’r bardd nodedig o’r 20fed ganrif, Caradog Pritchard.