Adolygiad cynhyrchiad Wythnos yng Nghymru Fydd

gan Ben Ridler

IMG_1805.jpg

Rheidrwydd mae’n amlwg ydy  croesawu opera newydd yn y Gymraeg, ac yn enwedig un sy'n dod â bywyd a sylw newydd i nofel garreg-filltir yn hanes yr iaith fel Wythnos yng Nghymru Fydd.  Ond mae'n werth gofyn: beth yn wir sydd i'w ychwanegu at glasur rhyddiaith wrth ei ailwampio yn nillad genre arall?  Ceir ateb, dwi'n credu, ymhlith sylwadau Leusa Llywelyn yn rhaglen y sioe.  'Pa well gyfrwng nag opera i gyfleu'r anobaith, y gobaith, y cariad pur a'r dyheu di-ben-draw sydd i'w ganfod yn y gwaith llenyddol pwysig hwn?'  Cyfeirir gan Leusa at yr 'emosiynau cryf sydd flaenaf yng ngwaith Islwyn Ffowc Ellis'.  A dyma allwedd i lwyddiant y fenter hon fel cyfanwaith  -  yr argraff emosiynol sy'n aros ar y cof a'r galon yn sgîl cael profi perfformiad byw o'r math.

'Fel cyfanwaith'  -  dibynnodd yr effaith ddofn yma ar gyfuniad eang o sgiliau celf a chrefft, ac y mae'n anheg efallai i benodi unigolion, gan mai y cyfan sydd wedi creu grym cofiadwy'r noson.  Ni fu yna ddolen wan.  Ond mae’n rhaid wrth gwrs rhoi clod yn fanwl, yn gyntaf i'r ddau grewr wrth wraidd y peth, sef ei gyfansoddwr Gareth Glyn a'r libretydd Mererid Hopwood.   Llwyddodd Mererid i dorri nofel hir i lawr i ddrama dwy act gyda'i momentwm ei hun, gan fewnosod yma ac acw gyffyrddiadau telynegol gwreiddiol megis yn aria Mair ar ddiwedd Act 1  -  'Beth yw amser ond y mesur / sydd yn clymu'r galon fach?'.  (Diolch i'r cwmni am gyhoeddi libreto i'w werthfawrogi wedyn.)  Yn bennaf oll, clywyd yn sgôr Gareth Glyn (ar gyfer 'band' o ddwsin) ieithwedd naturiol, hoenus, wefreiddiol, yn llawn lliwiau gwahanol, yn ysgafn neu'n bwerus yn ôl yr angen. Ni phetrusodd yr egni na'r ysbrydoliaeth o'r nodyn cyntaf i'r un olaf.

20171108_141917.jpg

Dwi'n siwr y bydd y ddau grewr hyn wedi ymfalchïo yn y dehongliad a'r perfformiadau a gafwyd.  Cyfarwyddwyd y gerddoriaeth yn feistrolgar gan Iwan Teifion Davies, a'r llwyfannu gan Patrick Young gyda'i eglurdeb a'i ffocws arferol.  Mae'n anodd gorganmol y prif gantorion, pump ohonynt mewn nifer o rannau.  Gwyrthiol oedd stamina Robyn Lyn Evans (Ifan), yn bresennol ym mhob golygfa, a'i denor esmwyth a phleserus yn ddi-ymdrech tan y diwedd; cyfleodd yn ingol y 'dyheu di-ben-draw' sydd gan Ifan tuag at Mair, merch ei freuddwydion, a wireddwyd yn ei holl ysblander gan Gwawr Edwards.  Trwy lais bariton hyderus Euros Campbell rhannwyd i'r dim obaith ac anobaith Tegid dros y Gymraeg.  Bu'n anodd peidio crynu, fel Ifan, o flaen llais a phresenoldeb nerthol Capten Steele (y bas-bariton Sion Goronwy) sy'n 'ysu am droi'r cloc yn ôl' i 'oes aur Cymru'r gorffennol', ffrwydrad bygythiol a erys yn hir ar y cof.  A diolch i Sian Meinir am fwrw ei holl enaid (a chyfoeth ei llais mezzo) i mewn i'r olygfa sy'n uchafbwynt y stori, lle mae Hen Wraig y Bala yn cael ei harwain (mewn deuawd gogoneddus gydag Ifan) yn ôl i weddillion ei Chymraeg trwy eiriau ac alaw'r 23ain Salm.

Ynghyd â doniau'r Corws Hŷn, y Corws Iau a Cherddorfa Siambr Ensemble Cymru, heb anghofio set (Lois Prys) a goleuo (Gwion Llwyd) dyfeisgar ac effeithiol  -  dyma gyfanwaith i'w ddathlu fel cyrhaeddiad rhagorol sy'n argoeli'n dda am obeithion opera drwy'r iaith Gymraeg, a dyfodol y cwmni arloesol hwn.

 

Holl etifeddiaeth fy ngwlad

‘Gwerthais i’r cyfan mor uffernol o rad,

Do... gwerthais i’r cyfan, holl etifeddiaeth fy ngwlad’

 

Geiriau torcalonnus Ifan Powell yn y goedwig drwchus o fewn y Gymru a fu, ond sydd bellach yn ‘Western England’.  Efallai mai’r rhain yw’r llinellau mwyaf grymus o’r holl linellau yn opera newydd Gareth Glyn a Mererid Hopwood – Wythnos yng Nghymru Fydd:  ie, mwy grymus na bygythiad Brigad y Crysau Porffor i Gymru unedig a dwy-ieithog 2033 y gweledydd, a hyd yn oed yn fwy nerthol na gosodiad Gareth Glyn o’r drydedd salm ar hugain yng nghefn y siop sglodion yn y Bala, lle, o flaen llygaid Ifan, y mae’r iaith Gymraeg yn marw.

Pwy feiddia – ar wahan i’r ffŵl di-hid, Ifan Powell, yn ei ddydd – ddweud mai opera am yr iaith Gymraeg ar gyfer y Cymry Cymraeg yn unig yw Wythnos yng Nghymru Fydd?  Wir?!  Ai esgus gwael am beidio â chydrannu‘r weledigaeth hynod y mae’r opera newydd yn ei chyflwyno i ni?

Dengys Wythnos sut y gall diwylliant ganiatau iddo‘i hun farw. Ac mae ymateb dwys y siaradwyr Cymraeg yn ein cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad yn dyst i’r weledigaeth arswydus honno. Ond, gyda diolch i ddeallusrwydd ac ysbrydoliaeth y bardd a’r cyfansoddwr, mae’r opera newydd yn cyfleu cymaint mwy.

Mae Wythnos yn her i ni gyd, nid yn unig i’r cast, y gerddorfa, a chyfarwyddwr y cynhyrchiad presennol! Mae’n her i gynulleidfaoedd drwy y byd i holi eu hunain pwy ydynt a be allasai fod i feithrin eu hunaniaeth, a’u cymuned eu hunain? Ac mewn oes o genedlaetholdeb atgyfodol, argyfwng byd-eang y ffoaduriaid a gwleidyddiaeth atgasedd, a allai’r cwestiynau hyn fod yn fwy perthnasol? 

Sori? Yda ni’n siarad am opera? Onid llwyth o ddwli gwamal ar gyfer y crachach cyfoethog yw opera? Ydw i’n dweud wrthych bod ‘na neges wleidyddol i opera? (A nage, nid dim ond neges wleidyddol gywir….. )

Wel efallai wir. Ond yn Wythnos, mae gennym ‘etifeddiaeth’ go iawn ein mamwlad. Dyma opera sydd wedi ei gwneud yng  Nghymru ac yn y Gymraeg, nid benthyg dillad ail-law rhyw ddiwylliant arall. Dyma etifeddiaeth Cymru; math newydd o theatr gerddorol, cyfuno drama, barddoniaeth a chanu, ac ail-greu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain hen ddull, pedair canrif oed, o adrodd stori trwy gerddoriaeth.

Ai dyma fydd y ffordd y bydd yr iaith Gymraeg yn ei hachub ei hun? Drwy wneud opera iddi’i hun?

Os felly, mae OPRA Cymru’n aros yn eiddgar……

 

Casgliad Geoff Charles 1909 - 2002
Llyfrgell Genhedlaethol Cymru

Ymarferion llwyfan cyntaf prosiect cyffrous diweddaraf OPRA Cymru

File_000 (4).jpeg

23/06/17

Prif gantorion: Gwawr Edwards, Siân Meinir, Robyn Lyn, Siôn Goronwy ac Euros Campbell yn ymarfer dan gyfarwyddyd yr arweinydd ifanc addawol, Iwan Teifion Davies, wrth baratoi ar gyfer y daith gyntaf o gynhyrchiad OPRA Cymru o'r opera newydd 'Wythnos yng Nghymru Fydd'. Cyfle, nid yn unig i'r prif gantorion gyfarwyddo â'u rhannau ond hefyd cyfle i'r creawdwyr Gareth Glyn a Mererid Hopwood gael clywed eu gwaith am y tro cyntaf

Bore Gwener y 23ain o Fehefinperfformiwyd o flaen partneriaid creadigol eraill  y prosiect, fel y dylunydd, Lois Prys a’r Cyfarwyddwr, Patrick Young, yn ogystal â Chyfarwyddwyr Artistig Canolfan Pontio ac Ensemble Cymru, Elen ap Robert a Peryn Clement-Evans. Hefyd yn bresennol ar y dydd Gwener roedd nifer o randdeiliaid eraill sydd â diddordeb yn y cynhyrchiad: aelodau staff o Brifysgol Bangor, prif gomisiynwyr y gwaith newydd, ac o Galactig, y cwmni cyfryngau digidol o Gaernarfon, sy'n addasu’r dechnoleg Sibrwd, yr app ffôn newydd sydd wedi cael ei ddefnyddio'n effeithiol gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cynyrchiadau diweddar, ar gyfer y cyfrwng opera.

 

Dywedodd y cyfansoddwr, Gareth Glyn, "Fel miloedd o Gymry eraill, roedd darllen y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd yn brofiad ysgytwol a chreiddiol i mi; ac, er bod trigain mlynedd wedi mynd heibio ers ei chyhoeddi (gan Wasg Gomer), mae ei neges mor gref a chyffrous ag erioed.  Rydw i’n falch dros ben mai’r cwmni unigryw hwn, OPRA Cymru, fydd yn llwyfannu’r gwaith, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at gydweithio gyda nhw dros y misoedd nesa.”

 

Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, “Mae Pontio’n falch iawn o fod yn bartner yn y fenter gyffrous hon.  Gyda dawn dweud Mererid Hopwood, talent gerddorol Gareth Glyn ac OPRA Cymru, ynghyd â themâu pwerus a pherthnasol iawn i’r Gymru gyfoes, mae’n addo bod yn gynhyrchiad arbennig ac arwyddocaol”.

 

Mae Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig OPRA Cymru, wrth ei fodd gyda llwyddiant y cast a'r arweinydd: "Mae'n ysbrydoliaeth i mi i glywed rhai o leisiau gorau Cymru yn dod â gweledigaeth Gareth a Mererid yn fyw. Yr wyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r dylunydd, Lois Prys, i helpu'r talentau perfformio gwych hyn ddod â chwedl moesoldeb unigryw Ffowc Elis yn fyw o'r llyfr i'r llwyfan. Mae'n foddhad arbennig i mi fod neges y nofel yn cyd-fynd mor agos â chenhadaeth ein cwmni: mae'r Gymraeg yn dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a llewyrchus yn y wlad hon, ac fel mae'n digwydd, y mae hefyd yn iaith fendigedig ar gyfer opera. Mae camp neilltuol Gareth a Mererid yn brawf perffaith o hynny. Yn dilyn  gwaith yr wythnos gyffrous hon ar y darn, rwy'n hyderus y bydd  perfformiadau y cynhyrchiad newydd ym mis Tachwedd yn hynod o boblogaidd. "

Untitled design (10).jpg