AR Y GWEILL

 

WALES IN LONDON, REFORM CLUB 25/10 

Bydd OPRA Cymru yn cyflwyno noson o glasuron y byd opera wedi’u perfformio gan bedwar o artistiaid addawol ieuainc y cwmni: addasiadau newydd o gerddoriaeth opera mwyaf poblogaidd, drwy gyfrwng telynegol yr iaith Gymraeg.

Wrth i’r cwmni baratoi ei daith o berfformiad cyntaf erioed o Wythnos yng Nghymru Fydd gan y cyfansoddwr enwog Gareth Glyn a’r Prifardd Mererid Hopwood, cyflwynir hefyd ragflas o uchafbwyntiau’r gwaith hwnnw i’r cyhoedd.

Mi fydd Mererid Hopwood yn cyflwyno'r noson, gyda trafodaeth am y libretto ysgrifennodd

Iwan Teifion Davies fydd yn cyfeilio i'r cantorion. Fo hefyd fydd cyfarwyddwr cerdd taith mis Tachwedd.

Untitled design (12).jpg